Datganiad Tryloywder 23/24
Archif Datganiad Tryloywder
Gwerth faint o ffioedd myfyriwr mae fy mhrifysgol yn ei gael?
Cawsom £88,651,000 mewn ffioedd dysgu yn 2022/23, sef 50% o incwm y brifysgol.

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:
Cyfanswm yr incwm am 2022/23 oedd £178.0m.
50% | Ffioedd Dysgu a Chontractau Addysg |
19% | Grantiau a Chontractau Ymchwil |
14% | Grantiau Cyrff Cyllido |
10% | Incwm Arall (ynghyd a incwm buddsoddi, rhoddio na gwaddolion) |
7% | Preswylfeydd a Gweithrediadau Arlwyo |
Daw gweddill ein hincwm o grantiau gan gyrff ariannu at feysydd gwariant penodol, ffynonellau ariannu i dalu costau ymchwil, derbyniadau neuaddau ac arlwyo yn ogystal ag incwm o feysydd megis cyrsiau di-gredyd, Pontio, Academi, meithrinfa Tir Na Nog, y Ganolfan Rheolaeth, Parc Gwyddoniaeth Menai, Canolfan Brailsford a ffynonellau eraill.
Ar beth mae’n cael ei wario?

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:
Cyfanswm y gwariant yn 2022/23 oedd £172.3m.
27% | Adrannau Academaidd |
14% | Grantiau a Chontractau Ymchwil |
12% | Eiddo |
11% | Addysgol Cyffredinol |
9% | Preswylfeydd a Gweithrediadau Arlwyo |
7% | Gweinyddiaeth a Gwasanaethau Canolog |
6% | Gwasanaethau Acvademaidd |
4% | Cyfleusterau Staff a Myfyrwyr |
4% | Gwasanaethau a Ddarperir |
1% | Arall |
-5% | Symudiad ar Ddarpariaeth USS |
Mae'r siart hwn yn dangos ein holl wariant, gan gynnwys costau nad ydynt yn cael eu hariannu gan ffioedd dysgu megis ymchwil, gwasanaethau a ddarperir e.e. gwaith ymgynghori a neuaddau. Er mwyn dangos ar beth mae ffioedd dysgu yn cael eu gwario rydym wedi darparu dadansoddiad pellach isod.
Ar beth mae fy ffioedd yn cael eu gwario?
Rydym yn gwario'r incwm o'ch ffioedd dysgu i dalu am eich addysg a chefnogi dyheadau a rhagolygon ein holl fyfyrwyr at y dyfodol. Er mwyn gwneud hyn, caiff mwyafrif y ffioedd eu gwario ar addysgu a chymorth academaidd yn ogystal â gwariant ar TG, y llyfrgell ac adeiladau i hwyluso eich astudiaethau.

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:
29% | Addysgu ac Asesu |
18% | Costau Cynnal a Chadw Adeiladau |
16% | Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau nad ydynt yn ymwneud â staff) |
10% | Gwasanaethau Proffesiynol |
9% | Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau staff) |
7% | Costau ysgolion nad ydynt yn ymwneud â staff |
4% | Costau Darparu Offer a Gwasanaethau Llyfrgell a TG nad ydynt yn ymwneud â staff |
4% | Staff cefnogi mewn ysgolion |
3% | Darpariaeth staff o Wasanaethau TG a Llyfrgell |
Addysgu ac asesu
Amser addysgu ac amser cyswllt staff, amserlennu, darparu adnoddau ar-lein, trefnu arholiadau, amser tiwtor personol
Staff cefnogi mewn ysgolion
Staff gweinyddol a thechnegol sy'n gweithio yn ysgolion y brifysgol i gefnogi’r ddarpariaeth addysg
Costau ysgolion nad ydynt yn ymwneud â staff
Offer a nwyddau traul i gefnogi addysgu, hyfforddi staff academaidd a chostau teithio a recriwtio myfyrwyr
Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau staff)
Costau cefnogi myfyrwyr a chostau staff gweinyddol
Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau nad ydynt yn ymwneud â staff)
Costau cefnogi myfyrwyr a chostau staff gweinyddol
Darpariaeth staff o Wasanaethau TG a Llyfrgell
Costau staff TG a Gwasanaethau Llyfrgell
Costau Darparu Offer a Gwasanaethau Llyfrgell a TG nad ydynt yn ymwneud â staff
Costau offer TG cyfrifiaduron a rennir, cysylltiad di-wifr costau rhwydwaith, llyfrau a chyfnodolion nad ydynt yn ymwneud â staff
Costau cynnal a chadw adeiladau
Costau cynnal a chadw ystad y brifysgol gan gynnwys costau goleuo, gwresogi a chynnal a chadw
Gwasanaethau Proffesiynol
Costau i gefnogi'r brifysgol i weithredu'r swyddogaethau uchod.
Gwariant penodol ar Wasanaethau Cefnogi Myfyrwyr
O ran costau Cefnogi Myfyrwyr, rydym yn darparu'r gwasanaethau canlynol i wella cyfleoedd myfyrwyr i lwyddo. Ariennir hyn gan ffioedd myfyrwyr sy'n ychwanegu at gyllid grant o tua £756k.
£’000 | |
Lles Myfyrwyr Cefnogi a hyrwyddo lles myfyrwyr | £1,547,000 |
Sgiliau / Cyflogadwyedd Gwella sgiliau astudio myfyrwyr i’w helpu i ddod o hyd i waith ar ôl graddio | £896,000 |
Gwasanaeth Anabledd Cynorthwyo myfyrwyr gyda'r cymhorthion sydd eu hangen i gefnogi eu hastudiaethau | £1,028,000 |
Ehangu Mynediad Gweithio gyda darpar fyfyrwyr i godi eu hymwybyddiaeth a’u dyheadau yng nghyd- destun addysg uwch | £905,000 |
£4,377,000 |